Senedd Cymru | Welsh Parliament
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai | Local Government and Housing Committee
Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) | Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill
Ymateb gan: Cyngor Gwynedd | Evidence from: Gwynedd Council
Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol / Homelessness and Social Housing Allocation Bill
1. Beth yw eich barn ar egwyddorion cyffredinol y Bil, ac a oes angen deddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodwyd? / What are your views on the general principles of the Bill, and whether there is a need for legislation to deliver the stated policy intention?
Rydym o’r farn bod egwyddorion cyffredinol y Bil yn rhai i’w croesawu, fodd bynnag mae gennym rhai pryderon fel y byddwn yn amlygu yn yr ymatebion hyn.
Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod uchelgais Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag heriau brys yn y sector tai drwy gyflwyno’r Bil hwn. Rydym hefyd yn cytuno gyda nod y Bil i wella diogelwch tenantiaid, i wella goruchwyliaeth rheoleiddio, a chefnogi unigolion bregus. Fodd bynnag, mae gennym bryderon sylweddol os yw’r newidiadau arfaethedig wedi llawn ystyried beth yw’r sefyllfaoedd presennol ar lawr gwlad, ac fel canlyniad, os ydynt yn debygol o arwain at gyflawni’r amcanion hyn yn effeithiol.
Yn gyntaf, mae’r sector tai yn wynebu pwysau sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau ariannol, diffyg staff, a galw cynyddol am wasanaethau tai, yn enwedig am lety argyfwng. Mi fydd cyflwyno dyletswyddau statudol newydd heb gadarnhad o’r adnodd ychwanegol er mwyn cyflawni’r newid yn golygu nad yw’n bosibl cynllunio gyda sicrwydd ar gyfer gwneud y newidiadau angenrheidiol. Gall hyn cynyddu’r risg y bydd cynnwys y Bil yn arwain at danseilio effeithiolrwydd gwasanaethau tai yn hytrach na’u cryfhau.
Yn ail, mae rhai agweddau o’r Bil yn aneglur ac nid yw o reidrwydd yn cyfarch y cymhlethdod ac amrywiaeth mewn anghenion tai ledled Cymru. Fel canlyniad, mae cyffredinoli’r heriau i fod yn rhai unffurf ar gyfer pob Awdurdod Lleol yn gallu arwain at fframwaith caeth nad yw’n ddigon hyblyg er mwyn diwallu materion lleol.
Mae cymhlethdodau eisoes yn y system dai bresennol, gyda cyfrifoldebau wedi rannu rhwng nifer o wahanol gyrff. Rhaid sicrhau nad yw’r newidiadau yn arwain at mwy o ofynion cyfreithiol, dyblygiad gwaith, a weithrediadau anghyson ledled Cymru a all at arwain at leihau ansawdd y gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid (yn cynnwys rhai lleiafrifol). Rydym felly yn gofyn fod chanllawiau clir ac hyfforddiant penodol yn cael eu ddarparu cyn gweithredu ar y newidiadau.
Er bod y Bil yn sôn am broses o ymgysylltu helaeth gyda nifer o asiantaethau cyn ei weithredu, nid ydym o’r farn fod y trafodaethau hyd yma wedi canolbwyntio yn ddigonol ar farn Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid allweddol sydd â gwybodaeth hanfodol yn y maes. Mae diffyg ystyriaeth i faterion ymarferol ar sut mae’r maes yn gweithredu dydd i ddydd wrth lunio’r fframwaith yn golygu nad yw’n adlewyrchu sut y bydd yn effeithio ar wasanaethau rheng flaen.
Er ein bod yn cydnabod yr argyfwng sydd ohoni ar hyn o bryd yn y maes tai, credwn fod amseriad gweithredu’r Bil, ynghyd ag ystyriaethau ymarferol ac ariannol, yn holl bwysig ar gyfer weithredu unrhyw newid yn llwyddiannus. Fel canlyniad, rydym yn galw am eglurder brys gan Lywodraeth Cymru ar y materion hyn i alluogi Awdurdodau i ddechrau ar y broses o addasu eu cyfundrefnau gweithredol.
2. Beth yw eich barn ar y darpariaethau a nodir yn Rhan 1 o'r Bil - Digartrefedd (adran 1 hyd adran 34)? Yn benodol, a yw’r darpariaethau yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd? / What are your views on the provisions set out in Part 1 of the Bill - Homelessness (sections 1 -34)? In particular, are the provisions workable and will they deliver the stated policy intention?
Ymestyn y Cyfnod Rhybudd Digartrefedd i Chwe Mis
Mae’r egwyddor o weithredu’n gynnar i atal digartrefedd i'w groesawu, ond bydd angen ystyried sut i gyflawni hyn heb gynyddu’r pwysau ar wasanaethau digartrefedd sydd eisoes o dan straen sylweddol. Rhagwelir y bydd y newid yn arwain at gynnydd mewn achosion sydd yn gymwys i dderbyn cymorth. Bydd angen buddsoddiad penodol yn y nifer o staff, systemau gwybodaeth a chyflenwad tai, er mwyn cyflawni’r bwriad a nodwyd yn y Bil.
Dileu’r Egwyddor o Bwriadoldeb
Er bod y newidiadau sydd yn ymwneud a ‘digartrefedd bwriadol’ yn adlewyrchu bwriad i sicrhau mwy o gymorth i unigolion bregus, gall y newid mewn gweithredu’r prawf bwriadoldeb arwain at ganlyniad anuniongyrchol sydd yn mynd yn groes i'r hyn a fwriadwyd. Ni fydd y newid yn gwella mynediad at dai, yn hytrach, gall beryglu’r gallu i bwyso a mesur rhwng ymddygiad afresymol ac anghenion sydd yn deillio o sefyllfa fregus yr unigolyn .
Mae dileu’r prawf bwriadoldeb o’r ddeddfwriaeth ddigartrefedd yn cyflwyno risgiau cyfreithiol sylweddol i Awdurdodau Lleol. Heb fecanwaith i wahaniaethu rhwng digartrefedd bwriadol a digartrefedd oherwydd fregusrwydd, gall cynghorau wynebu heriau i gyflawni dyletswyddau statudol.
Rhaid fod yn ymwybodol o oblygiadau perthnasol yn ymwneud a chyfraith gwlad, dyletswyddau iechyd a diogelwch, ac y Ddeddf Hawliau Dynol—yn enwedig wrth gydbwyso hawliau o dan Erthygl 3 ac Erthygl 8. Mewn achosion risg uchel sy’n cynnwys trais neu gamddefnyddio sylweddau, gall yr anallu i eithrio unigolion danseilio trefniadau diogelu, arwain at achosion o iawndal, a chyfleu’r argraff nad oes unrhyw ganlyniadau yn deillio o ymddygiad annerbyniol. Bydd angen canllawiau statudol eglur a fframweithiau diogelu cadarn i liniaru’r effeithiau hyn.
Cysylltiad Lleol – Dull Unffurf Cenedlaethol
Mae’r cynnig i greu dull unffurf ar draws Cymru o gysylltiad lleol yn anwybyddu’r amrywiaeth eang o amgylchiadau lleol sydd bodoli ledled y wlad. Mewn ardaloedd wledig fel Gwynedd, lle mae’r pwysau ar stoc dai cymdeithasol ac effaith ail gartrefi a mudo mewnol yn ddwys, mae’r gallu i flaenoriaethu i ddiwallu anghenion pobl leol yn hanfodol i warchod amcanion strategol yr Awdurdod.
Mae cynsail cyfreithiol yn cydnabod rôl allweddol cyswllt lleol mewn penderfyniadau ynghylch tai a digartrefedd. Mae deddfwriaeth e.e. Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi pŵer i Awdurdodau Lleol asesu cymhwyster, blaenoriaethu ceisiadau, a ddyrannu adnoddau yn ôl amgylchiadau lleol. Mae’r llysoedd wedi cadarnhau’r egwyddor hwn mewn achosion fel R v Wandsworth LBC, ex p. Felix (1995) a R (Miranda) v Manchester City Council (2015), gan gydnabod y galw i gyrff lleol gydbwyso anghenion amrywiol.
Fodd bynnag, rhaid i hyn gael ei weithredu yn gyfreithlon, yn deg ac yn rhesymol, gan barchu agweddau hawliau dynol (yn enwedig Erthygl 8 o’r CEDH) a dyletswyddau cydraddoldeb. Roedd y Llys Uchaf yn R (Southwark LBC) v Mills (2017) yn pwysleisio’r cydbwysedd hwn. Mae unrhyw ymdrech i gyflwyno dull unffurf cenedlaethol, megis rheolau cysylltiad lleol caeth, yn agored i her gyfreithiol am atal penderfyniadau lleol hyblyg ac effeithiol.
Yn gryno, mae cynsail cyfreithiol yn cadarnhau bod angen i Awdurdodau Lleol gadw’r hyblygrwydd wrth ymateb i anghenion lleol amrywiol wrth gydymffurfio â dyletswyddau statudol a hawliau dynol.
Dyletswyddau Ychwanegol - Heb Adnoddau Pendant na Strwythurau Atebolrwydd
Mae’r Bil yn gosod ystod eang o ddyletswyddau newydd ar Awdurdodau, ond heb gynnig mecanwaith clir o gyllid, strwythur atebolrwydd, nac amserlen benodol i weithredu’r newidiadau hyn. Mae’r system gyfan yn dibynnu ar weithlu sydd eisoes o dan bwysau ac ar gyflenwad tai nad yw’n cyfarch yr angen.
Sicrhau Tai Addas mewn Marchnad Annheg
Ni all unrhyw fodel cymorth newydd lwyddo heb sylfaen—yn benodol mynediad at dai fforddiadwy a diogel. Mae’r Bil yn gosod disgwyliadau bod Awdurdodau’n sicrhau tai addas, ond heb gydnabod bod y farchnad tai breifat yn anfforddiadwy mewn llawer o ardaloedd ac nad oes digon o dai cymdeithasol ar gael. Mae methu â chyflawni’r ddarpariaeth hon yn anochel os na fydd Llywodraeth Cymru yn barhau i gynnig adnoddau ddigonol i gyfarch targedau sydd wedi’u gosod ar gyfer adeiladu, adnewyddu a sicrhau cyflenwad tai digonol.
Diffyg Cydweithrediad ac Atebolrwydd Personol
Er bod yn hanfodol bod mynediad i wasanaethau’n hwylus ac yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn, rhaid hefyd cydnabod bod achosion lle mae unigolion yn dewis peidio â chydweithredu a’r Awdurdod, er gwaethaf cynigion rhesymol i'w gefnogi. Mae gofyn fod y trothwy ar gyfer penderfynu ar ddiffyg cydweithrediad yn aros yn uchel, ond dylid cydnabod bod rhai unigolion, am amryw o resymau, yn gwrthod cyd-weithio gyda'r Awdurdod Lleol.
Dyletswydd Statudol ar gyfer Gweithio Aml-asiantaethol
Mae'r nod cyffredinol o gryfhau trefniadau cydweithio amlasiantaethol drwy ddyletswydd statudol yn un mae’r Awdurdod yn cefnogi. Fodd bynnag, mae risg posibl yn ymwneud ag agweddau ymarferoldeb o wneud hyn yn llwyddiannus a hefyd fod y cyfrifoldeb ar wasanaethau tai i arwain ar y newid. Rhaid osgoi sefyllfaoedd o ddyblygu trefniadau sydd eisoes yn bodoli, a bydd angen eglurder bellach ar bwy fydd yn atebol, a beth fydd y canlyniadau os na fydd asiantaethau’n cydymffurfio. Yn ogystal â chyflwyno deddfwriaeth newydd, dylid buddsoddi mewn diwylliant o gydweithio drwy hyfforddiant, arweinyddiaeth glir a rhannu arferion da.
Rôl Tai â Chefnogaeth
Er bod yna pwyslais ar sicrhau tai parhaol i ddatrys yr heriau mae digartrefedd yn eu creu, mae’n hanfodol hefyd nad yw’r rôl allweddol mae tai â chefnogaeth a thai trosiannol ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth yn cael ei anwybyddu. I rai grwpiau bregus, efallai nad yw symud yn syth i dai parhaol yn opsiwn cynaliadwy oherwydd eu hamgylchiadau cymdeithasol, iechyd neu ymddygiad penodol.
3. Beth yw eich barn ar y darpariaethau a nodir yn Rhan 2 o'r Bil - Dyrannu Tai Cymdeithasol (adran 35 hyd adran 38)? Yn benodol, a yw’r darpariaethau yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd? / What are your views on the provisions set out in Part 2 of the Bill – Social Housing Allocation (sections 35 – 38)? In particular, are the provisions workable and will they deliver the stated policy intention?
Cytuno mewn egwyddor gyda’r syniad o roi mwy o ddisgresiwn i Awdurdodau Lleol ar ba gategorïau o bersonau fyddai yn cymhwyso, neu ddim yn cymhwyso i ymddangos ar y Gofrestr Dai. Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar beth fydd cynnwys y Cod Arweiniad a ddaw gan y Llywodraeth, ac wrth gwrs amseriad cyflwyno’r Cod hwnnw yn amserol fel y gall Awdurdodau Lleol adolygu eu Cynllun Dyrannu Tai. Mae’n debyg y bydd defnyddio’r disgresiwn newydd yma yn golygu, er y byddai cofrestrau tai yn fwy cywir o safbwynt y gwir angen am eiddo cymdeithasol, y bydd y niferoedd ar y gofrestr yn is nac ar hyn o bryd; mae’n hanfodol bod y naratif o amgylch hynny yn glir ac yn gyson.
Rydym yn croesawu mwy o bwerau i roi dim blaenoriaeth i bersonau sydd yn camddefnyddio’r sustem tai, fodd bynnag byddwn yn disgwyl gyda diddordeb beth fydd y Cod Arweiniad yn ei ddweud ar y manylder.
Mae’r bwriad i osod pobl ifanc sy’n gadael gofal ac yn destun i ddyletswydd a108A hefyd i'w groesawu. Credwn, fodd bynnag bod cyfle wedi ei golli i roi mwy o flaenoriaeth statudol i bersonau sydd yn ddigartref ac yn byw mewn eiddo dros dro neu eiddo argyfwng. Byddai datgan hynny yn statudol, yn hytrach na bod yn ddewisol, yn llawer iawn mwy pwerus ac yn arf llawer iawn mwy defnyddiol i leihau arhosiad ymgeiswyr mewn eiddo sydd yn anaddas ar eu cyfer.
Mae’r Cyngor yn croesawu’r hyn sydd yn cael ei ddatgan ym mharagraff 162 o’r Memorandwm Eglurhaol (tudalen 36): “social landlords, including RSLs and registered providers of social housing can only offer their accommodation to persons on the CHR, meaning that to access any social housing stock an applicant must register on the CHR” ac yn sylwi ar adran newydd yn y Bil (adran 160B) sydd i'w gynnwys ar ôl yr adran 160A presennol. Tra’n croesawur’r hyn a fwriedir yn adran 160B(1), credwn nad ydy adran 160B(2) yn mynd i fod o gymorth i awdurdod lleol sydd ddim efo stoc tai ei hun gan ei fod yn cadw’r disgresiwn a roddir yn adran 159(5) o Ddeddf Tai 1996 i landlord cyhoeddus weinyddu “trosglwyddiad rheolaeth”. Sut y gellir gweithredu adran 160B(2) newydd ochr yn ochr ag adran 159(5) gan bod y ddau yn ymddangos yn gwrth-ddweud eu gilydd?
Tra rydym yn cydnabod yr angen i'r Gweinidogion Cymreig wneud newidiadau trwy reoliadau'r dyfodol, byddem yn datgan y byddai angen ymgynghoriad llawn gydag Awdurdodau Lleol cyn eu cyflwyno.
Rydym yn gyffredinol yn croesawu’r darpariaethau o amgylch cyflwyno Cofrestr Tai hygyrch. Credwn fodd bynnag bod angen hyblygrwydd i awdurdod lleol gynnwys y Gofrestr Tai Hygyrch oddi fewn, ac yn rhan o’r brif Gofrestr Tai Cyffredin fel bod pob opsiwn posibl yn cael ei ystyried ar gyfer diwallu anghenion tai arbenigol.
4. Beth yw eich barn ar y darpariaethau a nodir yn Rhan 3 o'r Bil - Dyrannu Tai Cymdeithasol (adran 39 hyd adran 43 ac Atodlen 1)? Yn benodol, a yw’r darpariaethau yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd? / What are your views on the provisions set out in Part 3 of the Bill – Social Housing Allocation (sections 39 – 43 and Schedule 1)? In particular, are the provisions workable and will they deliver the stated policy intention?
Tra rydym yn cydnabod yr angen i'r Gweinidogion Cymreig wneud newidiadau trwy reoliadau'r dyfodol, byddem yn datgan y byddai angen ymgynghoriad llawn gydag awdurdodau lleol cyn eu cyflwyno.
5. Beth yw'r rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, a sut mae’r Bil yn ystyried y rhwystrau hynny? / What are the potential barriers to the implementation of the Bill’s provisions and how does the Bill take account of them?
Mae cyflwyno Bil Tai newydd yng Nghymru yn cynnig cyfle pwysig i ddiwygio’r sector dai ac i gryfhau hawliau tenantiaid a safonau darpariaeth. Fodd bynnag, mae nifer o ystyriaethau ymarferol ar gyfer ei weithredu yn effeithiol ac yn llwyddiannus.
Un o’r prif rwystrau tebygol yw’r cyfyngiadau ariannol ac adnoddau sydd ar gael. Bydd gweithredu'r
Bil yn llawn yn gofyn am gyllid sylweddol a chynnydd yn y nifer staffio, yn enwedig o fewn Awdurdodau Lleol a chyrff rheoleiddio. Er bod y Bil yn ehangu pwerau’r rheoleiddwyr, mae diffyg eglurder ynghylch y ddarpariaeth o adnoddau (parhaol), yn codi pryderon ynghylch cynaliadwyedd hirdymor.
Mae hefyd angen sicrhau fod ymgysylltiad digonol â rhanddeiliaid, yn enwedig landlordiaid yn y sector rhentu preifat. Gall diffyg cefnogaeth neu wrthwynebiad gan ddarparwyr allweddol danseilio gweithrediad llwyddiannus y Bil. Bydd angen canllawiau clir, hyfforddiant priodol, a strategaethau cydweithio cadarn i sicrhau ymrwymiad a dealltwriaeth gyffredinol o’r newidiadau arfaethedig.
Mae’r cymhlethdod cyfreithiol sy’n gysylltiedig â rhai darpariaethau yn creu risg a all arwain at anghysondeb wrth weithredu, yn enwedig ymhlith landlordiaid llai a thenantiaid heb fynediad at gyngor cyfreithiol. Mae angen deunyddiau perthnasol yn esbonio’r newid mewn modd clir a syml, er mwyn sicrhau bod hawliau a chyfrifoldebau’n cael eu deall a’u gweithredu’n deg.
Bydd integreiddio’r pholisïau newydd oddi mewn cyd-destun deddfwriaeth bresennol yn hanfodol i osgoi dyblygiad, gwrthdaro polisi ag unrhyw ddryswch.
6. Pa mor briodol yw'r pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth, fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol? / How appropriate are the powers in the Bill for Welsh Ministers to make subordinate legislation, as set out in Chapter 5 of Part 1 of the Explanatory Memorandum)?
Credwn fod y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth yn rhesymol, yn fesuradwy ac yn angenrheidiol. Bydden yn datgan, fodd bynnag, bod cyfle wedi ei golli gan y Llywodraeth ar gyflwyno deddfwriaeth hollol newydd ar ddigartrefedd a dyrannu tai cymdeithasol, yn hytrach na chyflwyno Bil sydd yn adolygu dwy ddeddf sydd eisoes yn bodoli. Os am ddatgan bod yr hyn gynigir yn y Bil yn “bellgyrhaeddol", yna mae angen atgyfnerthu hynny gyda deddf hollol newydd.
Byddwn hefyd yn datgan yn glir, pe byddai angen gwneud unrhyw newidiadau pellach i'r ddeddf yn dilyn trafodaethau yn y Senedd bod ymgynghoriad llawn a thrwyadl yn cael ei gynnal gydag
Awdurdodau Lleol o flaen llaw er mwyn deall yn llawn beth ydy’r heriau a rhwystrau a’r goblygiadau - yn cynnwys goblygiadau o ran gweithredu, adnoddau ac ariannu.
7. A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn debygol o ddeillio o’r Bil? / Are there any unintended consequences likely to arise from the Bill?
Mae nifer o ganlyniadau anfwriadol a all deillio o’r Bil eisoes wedi’u hadnabod mewn cwestiynau blaenorol, er mae rhai pwyntiau ychwanegol wedi’u rhestru isod.
Landlordiaid yn y Sector Preifat
Mae’r angen sicrhau cydymffurfiaeth yn peryglu gwthio nifer fawr o landlordiaid preifat, yn enwedig y rhai gyda nifer isel o dai i'w osod, allan o’r farchnad. Gallai hyn cael effaith ar y cyflenwad tai rhentu fforddiadwy, cynyddu’r lefel rhent yn sector preifat ac ychwanegu at bwysau ar Awdurdodau Lleol.
Cynnydd mewn Achosion Cyfreithiol a Daliadau Llys
Rydym yn rhagweld y bydd cynnydd yn y nifer o achosion a fydd yn mynd ger bron y Tribiwnlys Eiddo Preswyl, yn sgil materion a ddaw o’r weithredu newidiadau’r Bil. Rhaid ystyried capasiti’r llysoedd i fod yn gallu ymdopi gyda’r cynnydd mewn achosion.
8. Beth yw eich safbwyntiau ar asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol y Bil, fel y nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol? / What are your views on the Welsh Government’s assessment of the financial implications of the Bill, as set out in Part 2 of the Explanatory
Memorandum?
Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod ymdrech Llywodraeth Cymru i amlinellu goblygiadau ariannol y Bil Tai arfaethedig yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol. Fodd bynnag, mae gennym bryderon os yw’r asesiad a gyflwynwyd yn ddigonol.
Yn gyntaf, nid oes ddigon o bwyslais yn y Memorandwm ynglŷn â’r cymhlethdod a’r anghenion ariannol ychwanegol y bydd ei angen ar Awdurdodau Lleol. Bydd y dyletswyddau ychwanegol, gan gynnwys y cynnydd disgwyliedig mewn galw ar wasanaethau digartrefedd, yn gofyn am gyllid digonol sydd uwchlaw'r hyn a ddarperir ar hyn o bryd.
Yn ail, nid oes wybodaeth ddigonol ynglŷn â’r angen am hyfforddiant penodol, cost uwchraddio systemau, a ffurf y trefniadau ar gyfer sefydlu perthynas cydweithiol aml-asiantaethol. Mae rhagolygon y Memorandwm o gynnydd o 30% yn y nifer y bobl mewn llety argyfwng yn amlygu’r pwysau ychwanegol a all fod ar Awdurdodau Lleol fel Gwynedd, sydd eisoes yn gwario dros £5.5 miliwn y flwyddyn ar lety argyfwng. Er bod asesiad ariannol Llywodraeth Cymru i'w groesawu, mae Cyngor Gwynedd yn galw am ddadansoddiad mwy manwl o’r effaith ariannol.
9. A hoffech godi unrhyw faterion eraill o ran y Bil a’r Memorandwm Esboniadol neu unrhyw faterion cysylltiedig? / Are there any other issues you would like to raise about the Bill and the Explanatory Memorandum or any related matters?
Mae’r materion perthnasol i sefyllfa Cyngor Gwynedd ynglŷn â chynnwys y Bil a’r Memorandwm Esboniadol eisoes wedi nodi yn atebion i gwestiynau 1-8.